Mae'r cysyniad o
Ddatblygiad
Cynaliadwy
wedi bod o gwmpas am
ddegawdau ac mae'n syniad syml o sicrhau gwell ansawdd bywyd i bawb, nawr ac yn
y dyfodol. Diffiniad eang rhyngwladol yw “datblygiad sy'n cyrraedd
anghenion y presennol heb gyfaddawdu'r gallu i genedlaethau’r dyfodol gyrraedd
eu anghenion eu hunain.”
Er
bod y syniad yn syml, mae'r dasg yn sylweddol ac mae'n golygu bod rhaid i’r byd
gyflawni pedwar amcan ar yr un pryd:
Ymdeithiad
cymdeithasol sy'n adnabod anghenion pawb.
Mae angen i bawb
rhannu'r llesáu o ffyniant cynyddol ac amgylchedd diogel a glan. Mae’n rhaid i
ni wella'r mynediad i wasanaethau, taclo eithrio cymdeithasol, lleihau'r
niwed i iechyd achoswyd gan llymder, tai gwael,
llygredd a
diweithdra. Ni ddylai’n anghenion gael eu cwrdd drwy ymdrin eraill, gan
cynnwys cenedlaethau'r dyfodol a pobl gwledydd eraill yn y byd, yn annheg.
Amddiffyniad
effeithiol o'r amgylchedd
Maen rhaid i ni
weithredu i gyfyngu'r bygythion amgylcheddol byd-eang, megis newidiad
hinsoddol; gwarchod iechyd a diogelwch dynol wrth beryglon fel aer o ansawdd
gwael a chemegau gwenwynig; ac i ddiogelu pethau mae pobl eisiau neu'n
gwerthfawrogi, fel bywyd gwyllt, tirluniau, ac adeiladau hanesyddol.
Defnydd pwyllog o
adnoddau naturiol
Maen rhaid i ni
sicrhau ein bod ni'n defnyddio adnoddau an-adnewyddadwy fel olew a nwy yn
effeithlon a bod dewisiadau eraill yn cael eu datblygu i gymryd eu lle. Dylai
adnoddau adnewyddadwy megis dwr gael eu defnyddio mewn ffordd na fydd yn
peryglu'r adnodd neu’n achosi niwed difrifol neu lygredd.
Cynhaliaeth o
lefelau cynaliadwy a sefydlog o dyfiant economaidd a chyflogaeth
Mae rhaid i pawb i
fod yn gallu rhannu safon byw gweddus a chyfleoedd swyddi. Mae'r D.U yn genedl
masnachol mewn byd sy'n newid yn fuan. Er mwyn i’n gwlad ffynnu, maen rhaid
bod ein busnesau’n cynhyrchu nwyddau o ansawdd uchel a gwasanaethau mae prynwr
ar draws y byd yn eu heisiau, am prisiau maent yn barod i’w talu. Er mwyn
llwyddo i wneud hynny mae angen gweithwyr â’r addysg a’r sgiliau addas ar
gyfer y 21ain canrif. Yn ogystal, mae angen busnesau sy’n barod i fuddsoddi,
a'r seilwaith i’w cefnogi nhw.