sundance renewables
watts on
SUNDANCE IS A NON PROFIT TAKING, WORKER OWNED CO-OPERATIVE FOR RENEWABLE ENERGY AND SUSTAINABILITY
CONTACT
SUNDANCE

FFRINDIAU SUNDANCE

corner
 

FFRINDIAU SUNDANCE     

 

Mae nifer o unigolion a chyfluniannau yn ymroi’n ddilys at wella'r amgylchedd ac yn teimlo’n rhwystredig ynglŷn â’r diffyg o arall ddewis moesol a chynaliadwy i danwydd ffosil.

Pan rydym yn cyflenwi 100% biodiesel at ddefnydd tanwydd heol, rydym wedi talu'r tolldaloedd gofynnol i gyd yn cynnwys 'VAT' hefyd.

Mi fydd angen i'r pris pob litr i'n cwsmeriaid gwrdd â’n costau (ar hyn o bryd yn dod i gyfanswm o dros 40c/litr) hefyd y cost o casglu (hyd at 20c/litr) wrth adlewyrchu’r gost o sefydlu. Dydy ni ddim yn disgwyl llawer o brofit oddieithr bod y tolldal yn cael ei leihau i gyfateb  â gwledydd Ewropeaidd eraill.  

I ddechrau, mae’n fwriad gennym i werthu biodiesel am yr un pris a diesel ffosil. Dydyn ni ddim yn marchnata hwn fel arall-ddewis rhad i diesel ffosil gan yn amlwg dydy e ddim. Serch hynny, mae’n danwydd sy’n gyfeillgar i'r amgylchedd, wedi’i gynhyrchu o hen olew coginio a gasglwyd yn lleol Fel canlyniad, mae cyfoeth yn cael ei gadw yn yr economi lleol a hefyd mae swyddi lleol yn cael eu creu a’u cefnogi.

 

Felly dim rhagor o fod yn rhan o'r broblem - difrod amgylcheddol ddychrynllyd, yr ymelwad o’r boblogaeth leol mewn gwledydd sy’n cynhyrchu olew a bwydo'r cwnmioedd aml-genedlaethol sy'n trin economeg byd-eang a llywodraethau cenedlaethol...dewch i fod yn rhan o'r ateb a dechreuwch defnyddio biodiesel- “tanwydd teimlad dda.”

Gyda sylfaen da o gwsmeriaid, rydym yn rhagweld y byddwn yn llwyddo i gadw’n prisiau’n isel wrth i gostau diesel cyffredin godi ar y stryd fawr. Os oes diddordeb gennych yn ein gwaith, fe hoffech dderbyn ein cylchlythyr neu’r ydych am fod yn gwsmer ffafriol ar gyfer prynu biodiesel, agorwch y ddogfen 'word' isod os gwelwch yn dda a dychwelwch y ffurflen i:

Sundance Renewables,
Ystad Diwydiannol Capel Hendre ,
Rhydaman,
Sir Gaerfyrddin,
SA18 3SJ
 

FRIENDS OF SUNDANCE FORM (63 Kb)

 

 

corner
footer   ©  Sundance Renewables 2002. E&OE. Last updated February 2008
Website designed using 100% solar power by
Ecoworks