sundance renewables
watts on
SUNDANCE IS A NON PROFIT TAKING, WORKER OWNED CO-OPERATIVE FOR RENEWABLE ENERGY AND SUSTAINABILITY
AMDANON NI
 
PROFFIL SUNDANCE

DDIM AM PROFFID?

GWYBODAETH AM GWMN�OEDD CYDWEITHREDOL

MATHAU O GWMN�OEDD CYDWEITHREDOL

SAFLE AROLWG A MORDWYAETH

BETH YW YNNI ADNEWYDDADWY?
 
FFRINDIAU SUNDANCE
 
DIOLCHIADAU
corner
 
MATHAU O GWMNIOEDD CYD-WEITHREDOL
 

Mae cwmn�oedd cydweithredol yn rhyngwladol ac mae nifer o wahanol mathau:

Gweithwyr cydweithredol yw�r cwmn�oedd sy'n eiddo i, ac yn cael eu rhedeg gan y pobl sy'n gweithio ynddynt. Mae'r gweithwyr yn rhannu'r cyfrifoldebau a'r gwobrwyon, ac yn aml mae cydweithredau'n darparu amgylchedd mwy diogel na hunangyflogaeth. Mae sefydlu cwmni cydweithredol yn gallu arlwyo arall-ddewis i di-gyflogaeth neu'r caead o cwmni, a ffordd i ddechrau menter newydd.

Mae Gwasanaethau neu Masnachau cydweithredol yn hunan cynhyrchu gwasanaethau neu nwyddau ar rhan eu aelodau. Mae�r rhain yn fodd i cwmn�oedd bach ddod at ei gilydd i ymgymryd � prosiectau ni fedrent rheoli eu hunain. 

Mae Bwydydd cydweithredol yn galluogi pobl i brynu bwyd yn rhatach, ac o well ansawdd gan ddefnyddio'u pw�rau prynu. Gall hwn fod yn lysiau oddi wrth cyfanwerthwyr, bwydydd holliach� neu eitemau sylfaenol a ellir eu prynu�n rhatach drwy swmp brynu.

Mae Tai Cydweithredol yn darparu tai ar gyfer eu aelodau, a rheolwyd gan y bobl sydd yn byw ynddynt. Maent yn aml yn darparu tai ar gyfer pobl sydd � blaenoriaeth isel gydag awdurdodau lleol neu pobl nad ydynt yn gymwys i gael, neu sydd ddim eisiau cymryd morgais. 

Mae busnesau cymunedol yn perthyn i ac yn cael eu rhedeg gan y bobl yn y gymuned. Fel arfer, fe�i sefydlwyd i ddarparu cyfleuster neu gwasanaeth sydd o lles i'r gymuned. Eu amcan yw cynnal eu hunan drwy cynhyrchu incwm o'r gweithgareddau y maent yn cymryd rhan ynddynt. Mae hwn o bosib yn gwella'r amgylchedd lleol, cynnig hyfforddiant neu cyfleon cyflogaeth, neu efallai darparu gwasanaeth prin mewn ardal lle bo galw amdano. Defnyddir unrhyw broffid i gryfhau'r busnes neu er mwyn darparu gwasanaethau pellach i'r cymuned.

Mae Cynllun masnachu cyfnewid lleol yn helpu eu aelodau i brynu gwasanaethau a nwyddau oddi wrth ei gilydd, gan ddefnyddio arian cyfred lleol neu tocyn yn lle arian. Mae pobl yn gallu cynnig neu ceisio gwasanaethau drwy cyfarwyddiadur LETS lleol. Mae'n galluogi pobl i brynu oddi wrth ei gilydd heb mynd i ddyled.

Undebau credyd yw cynlluniau cynilio a benthyg a�u gweithredwyd gan y bobl sydd yn eu defnyddi, ac yn cynnig credyd fforddiadwy i�w aelodau. Mae nhw'n arallddewis i fenthycion drud ac yn annog pobl i gynilo�n rheolaidd, hyd yn oed os ydyw'n swm bach.

Mae Cwmn�oedd Cymdeithasol yn rhoi blaenoriaeth i bobl a fydd yn ei chael yn arbennig o anodd i ddod o hyd i gyflogaeth. Efallai y byddant yn arbenigo mewn darparu cyfleoedd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, neu sy�n dioddef o salwch.

 

corner
footer   ©  Sundance Renewables 2002. E&OE. Last updated February 2008
Website designed using 100% solar power by
Ecoworks